Hanes

Hanes y Gymdeithas

Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906. Fel Amgueddfa, Prifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y mae’n deillio o feddylfryd diwedd y 19eg ganrif a geisiodd sicrhau sefydliadau diwylliannol cenedlaethol Cymreig. Yn wir, yr oedd nifer o’r gwladgarwyr a fu’n amlwg ym mhroses creu’r sefydliadau hyn yn flaenllaw hefyd gyda’r Gymdeithas.

Erbyn ail hanner yr 20fed ganrif, cyhoeddwyd bron 600 o ganeuon traddodiadol (Cymraeg, bron i gyd) gan y Gymdeithas. Wedi hyn, gan dderbyn bod y prif waith casglu fwy neu lai ar ben, symudodd y ffocws fwyfwy at faes ymchwil.

Yn 1963, sefydlwyd cynhadledd breswyl flynyddol. Mae’r gynhadledd yn cynnwys darlithiau gan arbenigwyr o Gymru (ac yn achlysurol o wledydd eraill), trafodaethau a sesiynau canu. Cyhoeddwyd nifer o’r darlithiau dros y blynyddoedd yng Nghylchgrawn y Gymdeithas (Canu Gwerin / Folk Song).

Dechreuwyd cyhoeddi Cylchgrawn y Gymdeithas yn 1909. Fe’i hail-lansiwyd dan enw newydd, Canu Gwerin/ Folk Song, yn 1978 ac y mae wedi ymddangos yn flynyddol ers hynny. Cymraeg yw iaith y rhan fwyaf o’r Cylchgrawn, sydd cael ei gyhoeddi ar gyfer wythnos gyntaf Awst bob blwyddyn, sef cyfnod Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Eisteddfod 2002

O’r dechrau, bu i’r Gymdeithas gysylltiad agos â’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae hi’n cyflawni swyddogaeth ymgynghorol, trwy argymell cystadlaethau a beirniaid yn flynyddol. Yn ystod yr Eisteddfod, mae’r Gymdeithas yn cynnal darlith – Darlith Goffa y Fonesig Parry-Williams – sydd wedyn yn cael ei chyhoeddi yn y cylchgrawn, Canu Gwerin / Folk Song. Hefyd, ar faes yr Eisteddfod mae cyfle pellach i hybu diddordeb y cyhoedd mewn canu gwerin a hyrwyddo gweithgareddau a chyhoeddiadau’r Gymdeithas trwy babell y Gymdeithas.

Yn ogystal â’r cylchgrawn, Canu Gwerin / Folk Song, y mae’r Gymdeithas yn cyhoeddi amrywiaeth o ddefnyddiau eraill.

At y dyfodol, y mae’r Gymdeithas yn bwriadu:

• Parhau i gyflenwi ei swydd ymgynghorol gyda’r Eisteddfod Genedlaethol
• Parhau i drefnu ei chynhadledd flynyddol (sydd fwyfwy yn denu cyfraniadau gan ymchwilwyr academaidd ifainc)
• Cyhoeddi ychwaneg o ddefnyddiau canu (drwy gyfrwng sain a thrawsgrifiad) ynghyd â ffrwyth gwaith ymchwil ym maes canu gwerin

Trwy gydol ei bodolaeth arhosodd y Gymdeithas yn gorff cwbl wirfoddol a chafodd ei chofrestru’n elusen yn ystod y blynyddoedd diweddar. Iaith swyddogol y Gymdeithas yw’r Gymraeg, a dyna gyfrwng arferol ei gweithgareddau. Mae ei haelodaeth gyfredol o gwmpas 150.

Am ragor o hanes y Gymdeithas, gweler Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: Canrif Gron/ The Welsh Folk-Song Society: A Whole Century gan D. Roy Saer, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas yn 2006 (ISBN 0 9532555 5 7).

I ymuno â’r Gymdeithas, gwelwch ein tudalen Aelodaeth, neu am ragor o wybodaeth amdani, cysylltwch â:

Dr Rhiannon Ifans (Ysgrifennydd Mygedol)
Rhandir, Penrhyn-coch, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EQ
Ffôn: (01970) 828719
E-bost: rhiannon.ifans@gmail.com