Aelodaeth

Ymuno â’r Gymdeithas

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1906. Ei hamcan yw casglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.

Mae Canu Gwerin, cylchgrawn y Gymdeithas, yn ymddangos bob Awst, a chynhelir cyfarfod blynyddol o ddarlithiau, trafodaethau a chanu yn ogystal â darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddir hefyd gyfrolau o alawon a threfniannau. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ond ceir peth gwybodaeth yn Saesneg ar ein gwefan ddwyieithog www.canugwerin.org

Mae’r tanysgrifiad blynyddol yw £10 i oedolion, £12 i gwpwl, a £3 i blant a myfyrwyr. Fe’ch anogir i ddefnyddio archeb banc os oes modd a hefyd i lenwi’r Datganiad Cymorth drwy Rodd, sy’n ychwanegu at eich cyfraniad heb gost ychwanegol i chwi.

Ffurflen Ymaelodi | Archeb BancRhodd Gymorth