Derbyniodd y Gymdeithas gymynrodd yn ewyllys y ddiweddar Hilda
Hunter i’w galluogi i ddyfarnu ysgoloriaeth i ymgeisydd teilwng sy’n
astudio cerddoriaeth werin Gymreig.
Roedd Hilda Hunter yn gerddor ac yn athrawes cerdd a gymerai
ddiddordeb byw yn nhraddodiad gwerin Cymru, ac roedd yn awyddus
iawn i weld parhad mewn diddordeb yn y traddodiad.
Mae’r Gymdeithas yn awyddus i ddyfarnu ysgoloriaeth o £2,000, i’w dal
am flwyddyn, ym maes cerddoriaeth werin Gymreig. Gellir defnyddio’r
arian i hyrwyddo ymchwil yn y maes neu i gefnogi agweddau ar
berfformio cerddoriaeth werin yn lleisiol neu yn offerynnol.
Ymhlith y meysydd posibl y mae: ymchwil ar gyfer traethawd mewn
prifysgol; cynllun cyflwyno cerddoriaeth werin mewn ysgolion neu yn
gymunedol; derbyn hyfforddiant ym maes cerddoriaeth werin. Ni
chyfyngir yr ysgoloriaeth i’r meysydd hynny, a chroesawir ceisiadau sy’n
ymwneud ag unrhyw agwedd ar gerddoriaeth werin Gymreig.
Disgwylir i ddeiliad yr Ysgoloriaeth gyflwyno adroddiadau chwarterol i
Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas a llunio erthygl / adroddiad i Canu
Gwerin, cylchgrawn blynyddol y Gymdeithas, i gyflwyno ffrwyth yr
ymchwil neu gasgliadau’r prosiect.
Dylid cyflwyno ymholiadau pellach a cheisiadau, gan gynnwys manylion
personol a disgrifiad llawn o’r cynllun arfaethedig, i Ysgrifennydd y
Gymdeithas, Dr Rhiannon Ifans, erbyn 1 Medi 2026:
rhiannon.ifans@gmail.com.
