Hafan

Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru

Amcanion y Gymdeithas

Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym 1906 er mwyn casglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.
Cafodd ei hamcanion eu datgan yn glir yn rhifyn cyntaf Cylchgrawn y Gymdeithas (1909):

“The Society has been established for the purpose of collecting and preserving Welsh folk-songs, ballads and tunes, and of publishing such of these as may be deemed advisable; in short, to carry out for Wales the work that is already being done by the Folk-Song Society for England and the Irish Folk-Song Society for Ireland.”

Mae Canu Gwerin, cylchgrawn y Gymdeithas, yn ymddangos bob Awst, a chynhelir cyfarfod blynyddol o ddarlithiau, trafodaethau a chanu yn ogystal â darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddir hefyd gyfrolau o alawon a threfniannau. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ond ceir peth gwybodaeth yn Saesneg ar y wefan ddwyieithog hon.